Diben astudiaeth o ddichonoldeb yw i ddadansoddi ac asesu cynnig neu syniad er mwyn profi ei hyfywedd ac ateb y cwestiwn hollbwysig, "A ddylem ni barhau?" Mae'r astudiaeth yn sail i'r broses o wneud penderfyniadau ac yn darparu'r dystiolaeth i brofi'r cysyniad o fewn amgylchedd cymdeithasol, economaidd a thechnegol.
Gall Cwmnïau Cymdeithasol Cymru gweithio gyda chi i ddatblygu eich astudiaeth dichonoldeb er mwyn creu’r llwyfan i chi lansio eich syniadau. Mae ein hastudiaethau yn cael eu cynllunio i gyfrannu at elfennau eraill o'r prosiect, megis y busnes neu gynlluniau marchnata, ac yn cynnig argymhellion clir i lywio'r broses o wneud penderfyniadau.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch gyda San Leonard ar 07799 345 940 neu e-bostiwch [email protected]