Os ydych yn cyflogi pobl anabl neu bobl dan anfantais yn eich gweithle.......

Thursday, 23 March 2017
Os ydych yn cyflogi pobl anabl neu bobl dan anfantais yn eich gweithle......

Os ydych yn cyflogi pobl anabl neu bobl dan anfantais yn eich gweithle, yna gallech elwa ar newid diweddar i reoliadau caffael yn y sector cyhoeddus, a gynlluniwyd i greu mwy o gyfleoedd i fusnesau cymdeithasol. Yn rhan o'i pholisi ar gaffael yn y sector cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr UE 2014. Roedd y Cyfarwyddebau’n cynnwys amod y gallai cyrff y sector cyhoeddus gadw rhai cyfleoedd caffael ar gyfer busnesau a gynorthwyir sy'n rhedeg gweithdai gwarchod/rhaglenni cyflogaeth, lle roedd 50% o'r gweithlu yn anabl. Mae'r maen prawf cymhwyso hwn wedi newid yn ddiweddar i gynnwys gweithwyr dan anfantais yn ogystal â phobl anabl, ac mae'r gyfran ofynnol leiaf o'r gweithwyr hyn yng ngweithlu'r cyflenwr wedi gostwng i 30%. Mae hyn yn golygu y dylai rhagor o fusnesau cymdeithasol fod yn gymwys i wneud cais am gytundebau wedi'u cadw. Byddai enghreifftiau o weithwyr dan anfantais yn cynnwys unrhyw un rhwng 15 a 24 oed, neu dros 50 oed; unrhyw un nad yw wedi bod mewn cyflogaeth reolaidd am dâl am 6 mis neu ragor; unrhyw un sy'n oedolyn sengl ag un dibynnydd neu fwy.

Gellir dod o hyd i fanylion am y contractau sydd ar gael ar GwerthwchiGymru. Gofrestru gyda GwerthwchiGymru. Ticiwch y blwch 'Trydydd Sector' ac yna 'Diweddaru' i weld rhagor o opsiynau, sy'n cynnwys 'busnesau a gynorthwyir'. Bydd hyn yn sicrhau y gallwch gael mynediad i gontractau wedi'u cadw.

 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved