Ngwobrau a Chynhadledd 2024 Busnes Cymdeithasol Cymru yn Venue Cymru - 2 Hydref. 

Thursday, 12 September 2024
Ngwobrau a Chynhadledd 2024 Busnes Cymdeithasol Cymru yn Venue Cymru - 2 Hydref.

Ymunwch â ni i ddathlu ein henwebeion – a’n henillwyr – rhyfeddol yng Ngwobrau a Chynhadledd 2024 Busnes Cymdeithasol Cymru yn Venue Cymru ym mis Hydref. 
  
Mae’r digwyddiad deuddydd hwn yn ddathliad o’r sector ac yn gyfle gwych i helpu i ffurfio’r ffordd rydym yn tyfu’r mudiad menter gymdeithasol yng Nghymru yn rhan o economi ffyniannus sydd wedi’i seilio ar y gymuned.

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru a gynhelir bob blwyddyn yn dathlu mentrau cymdeithasol ledled Cymru sy’n cael effaith fawr yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae’r busnesau gwych hyn yn gweithio mewn meysydd fel adfywio tai, iechyd meddwl a lles, newid i economi sero net, a hyfforddi sgiliau cyflogadwyedd.  

Nid seremoni wobrwyo gyffredin mohoni, ond teyrnged i’r ymdrechion diflino i ffurfio ein dyfodol.  

Mae tocyn i’r gynhadledd yn addo cymysgedd o siaradwyr a safbwyntiau a fydd yn ysgogi’r meddwl.

Byddwch yn elwa o weithdai ar ystod o bynciau allweddol, yn ogystal â’r cyfle i gysylltu â phartneriaid o’r sectorau menter gymdeithasol, cyhoeddus a phreifat.   

Ymunwch â gweithdai gan arbenigwyr ar:   

  • Y Bunt Gymreig: Cadw cadwyni cyflenwi’n lleol
  • Rôl menter gymdeithasol wrth drawsnewid economïau lleol
  • Llwyddo a ffynnu mewn cyfnodau anwadal
  • Creu Cymru sy’n fwy cynhwysol a thosturiol

Bydd prif siaradwyr o fyd menter gymdeithasol, datblygu economaidd a buddsoddi yn rhannu gwybodaeth a fydd yn ysgogi’r meddwl. 

Bydd Alwen Williams o Uchelgais Gogledd Cymru yn esbonio sut gall amgylchedd galluogol, yn ogystal â chymorth gan Uchelgais Gogledd Cymru, helpu busnesau cymdeithasol i ddatblygu, tyfu a ffynnu. 

Bydd Marquis Caines yn ymuno â ni o Diversity X i rannu ei brofiad a’i wybodaeth ynglŷn â sut gall angylion buddsoddi, cyfalaf menter ac entrepreneuriaeth gymdeithasol gydweithio i greu newid ystyrlon.

Bydd Scott Darraugh o Social AdVentures yn esbonio sut mae busnesau a berchnogir yn ddemocrataidd sy’n cefnogi eu haelodau a’r gymuned ehangach yn allweddol i newid y ffordd y mae’r economi’n gweithio yng Nghymru, ac yn rhannu ei brofiad o sefydlu, cefnogi a dod o hyd i gyllid ar gyfer busnesau cymdeithasol. 

Credwn y dylai – ac y gall – economi Cymru weithio’n wahanol.

Gallwch gyfrannu’n weithredol at ailddychmygu economi Cymru mewn ffordd sy’n rhoi Pobl a’r Blaned yn Gyntaf.

Ymunwch â ni yng Ngwobrau a Chynhadledd 2024 Busnes Cymdeithasol Cymru – archebwch eich tocynnau
 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved