Yma i ysbrydoli’r meddwl - 10 mlynedd o Doubleclick
Mae Double Click Design and Print CIC – ‘Doubleclick’ i’w ffrindiau – yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed fel cwmni cymdeithasol yn 2025, ac mae cymaint i’w ddathlu!
Mae gwreiddiau Doubleclick yn mynd mor bell yn ôl ag 1993, pan ddechreuodd fel prosiect ymchwil gan Gyngor Sir y Fflint. Y nod oedd “creu cyfle gwaith realistig i bobl sy’n dioddef neu’n gwella o broblemau iechyd meddwl”. Ar ôl cyflawni llwyddiant mawr o fewn y gymuned, tyfodd yr awydd i ehangu cwmpas a gwasanaethau’r prosiect – ac ar ôl blynyddoedd lawer o gynllunio a thrafod, ynghyd â chymorth amhrisiadwy gan Gwmnïau Cymdeithasol Cymru, ar 14 Ebrill 2015, daeth Double Click Design and Print CIC i fodolaeth. A thros y degawd diwethaf, mae'r cwmni wedi parhau i fynd o nerth i nerth.
Mae'r cwmni cymdeithasol hwn yn gyfuniad unigryw o asiantaeth dylunio graffeg fasnachol a hyfforddiant galwedigaethol creadigol. Mae’r hyfforddiant hwn ar gael trwy atgyfeiriad (referral) i aelodau o'r gymuned leol sydd mewn adferiad iechyd meddwl. Mae hyn yn cael ei wneud ar y cyd â thimau iechyd meddwl Sir y Fflint.
“Mae ein hyfforddiant wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau creadigol a fydd yn helpu unigolion i fynd yn ôl i waith, dechrau busnes, dychwelyd i addysg neu, yn syml, i ennill yr hyder i’w galluogi i symud ymlaen,” meddai Neil Rees, Rheolwr Gweithrediadau Doubleclick. “Gall y sgiliau hyn gynnwys dylunio graffeg, ffotograffiaeth, dylunio gwefannau, neu ysgrifennu creadigol. Ond, a bod yn onest, rydyn ni’n gwneud ein gorau i deilwra hyfforddiant i anghenion yr unigolyn a’i angerdd creadigol, beth bynnag fo hynny, gan ein bod ni’n credu bod hyn yn rhoi’r cyfle mwyaf iddynt lwyddo. Ar hyn o bryd, er enghraifft, mae gennym ni rywun yn hyfforddi i fod yn artist tatŵ, un arall yn archwilio dylunio gemau, a rhywun arall wedyn yn datblygu gweithdai Cymraeg – felly mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd bron!”
Mae gwaith dylunio ac argraffu a hyfforddiant oll yn digwydd yn yr un stiwdio cynllun agored, wedi’i leoli o fewn anecs llawn cymeriad yng Nghanolfan Fenter Glannau Dyfrdwy. Dyma ofod sy’n cynnig ‘teimladau da yn unig’ – mae hyn yn cael ei nodi’n glir gan arwydd neon sy’n addo hyn wrth i chi ddod i mewn!
“Rydyn ni i gyd wedi profi’r straen a’r pryder a all ddod gydag amgylcheddau gwaith traddodiadol,” meddai Neil. “Felly rydyn ni’n mynd allan o’n ffordd i sicrhau bod hwn bob amser yn amgylchedd hamddenol, croesawgar a chynhwysol. Mae gennym ni dîm anhygoel o staff, hyfforddeion a gwirfoddolwyr yn Doubleclick, ac yn cael cymaint o gefnogaeth gan fusnesau a sefydliadau lleol. A dwi’n meddwl ein bod ni i gyd yn gallu synhwyro bod rhywbeth arbennig yn digwydd yma.”
“Roedden ni bob amser eisiau cysylltu â chwmnïau eraill o’r un anian yn yr ardal a chefnogi cymunedau lleol,” ychwanega Sumnadipa, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Doubleclick. “Oherwydd pan fydd pobl a busnesau o’r un anian yn dod at ei gilydd, maen nhw’n gallu cael effaith fawr a bod yn rym cadarnhaol dros newid.”
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Doubleclick wedi gweld llawer o newidiadau ei hun, yn fwyaf nodedig ail-frandio ac ehangu ymhellach ei gymorth i hyfforddeion. Mae hyn wedi cynnwys teithiau creadigol a lles, a wnaed yn bosibl gyda bws mini trydan newydd a ariannwyd yn garedig gan Ymddiriedolaeth Gymunedol y Loteri Cod Post.
Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol Double Click Design & Print – sy’n "dipyn o lond ceg" yn ol Neil – wedi moderneiddio gyda'r enw masnachu newydd Doubleclick a logo newydd, a’r is-bennawd newydd 'Cwmni Cymdeithasol Creadigol'. Mae eu gwasanaethau masnachol newydd yn cynnwys dylunio gwe, dillad a nwyddau wedi'u brandio, graffeg ddigidol a marchnata fideo. Maent hefyd yn ail-lansio eu cylchgrawn poblogaidd 'Like Minded'. Mae'r logo newydd hefyd yn cydnabod gwreiddiau Cymreig y cwmni.
"Mae'r pen-blwydd hwn yn teimlo fel y cyfle perffaith i ddangos yr holl newidiadau newydd hyn i bobl wrth ddathlu ein hanes. Wrth ymchwilio, rwyf wedi dod yn ymwybodol iawn o'r holl bobl anhygoel hynny a oedd mor hanfodol wrth sefydlu, cefnogi a rheoli y cwmni hwn, ac wedi clywed straeon yr un mor anhygoel am y bobl yr ydym wedi'u cefnogi", meddai Neil. "Dydw i ddim yn credu y gallwch chi danbrisio pa mor bwysig y gall cefnogaeth gymunedol fel ein un ni fod i bobl, ac mae wedi bod yn anrhydedd i mi barhau gyda gwaith ein cyn-reolwr Andy, a phawb arall a helpodd i greu ewyllys mor dda tuag atom dros gynifer o flynyddoedd. Parhawn i ddatblygu'r busnes a'r gwasanaethau a gynigiwn.
"Gennym bobl dalentog iawn yn dod trwy ein drysau bob wythnos, ac mae eu helpu i fanteisio ar y talentau hynny a'u troi'n sgiliau go iawn a allai helpu i lunio gweddill eu bywydau yn rhoi boddhad mawr. Ac mae'r tîm yn Doubleclick yn edrych ymlaen at gefnogi pobl i wneud hynny am lawer mwy o flynyddoedd i ddod!"
Bydd Doubleclick yn cynnal dathliad pen-blwydd arbennig ar 14 Ebrill. Os hoffech fynychu, anfonwch neges e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01244 846411. I gael gwybod mwy am Doubleclick, ewch i'w gwefan www.doubleclickdesign.co.uk neu eu cyfrifon ar Facebook (/doubleclickcic) neu Instagram (@doubleclick_cic).