Wrth i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddechrau cael ei rhoi ar waith o ddifrif yn y sector cyhoeddus drwyddo draw, mae hi’n hanfodol ein bod ni fel y trydydd sector yn mynd ati i hyrwyddo ein dulliau gweithio a’r hyn rydym yn ei gyflawni sy’n cyfrannu at lesiant Cymru.
Hoffai tîm Environet yn WCVA weithio gyda grwpiau a rhwydweithiau cynrychiadol ledled Cymru i edrych ar y gwaith ardderchog sydd eisoes yn digwydd a chysylltiadau â’r saith nod yn y Ddeddf a’r pum ‘ffordd o weithio’. Bydd yr ymarfer hwn yn cynhyrchu cyfres o ddeunyddiau sy’n amlygu, mewn gwahanol ffyrdd, yr hyn rydym eisoes yn ei gyflawni a’r arferion gorau y gallai cyrff cyhoeddus a mudiadau eraill eu mabwysiadu neu wneud cysylltiad â nhw. O gartŵns i ffeithluniau, ein nod yw creu cyfres o adnoddau a fydd yn:
- Annog mudiadau trydydd sector i fynd ati i ddangos eu cyfraniad at y 7 nod yn y Ddeddf
- Rhoi gwybodaeth i lunwyr polisïau a phenderfyniadau ynglŷn â chwmpas a phwysigrwydd cyfraniad y sector
- Canfod cyfleoedd pellach i gydweithio i sicrhau’r effaith gyfunol fwyaf posib
- Dechrau rhannu syniadau ar gyfer argymhellion posib y gellid eu cyflwyno i gyrff cyhoeddus a mudiadau eraill ynglŷn â’r hyn y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt ei wneud, o safbwynt y trydydd sector, i wneud pob Nod yn rhan annatod o’u gwaith.
Y ddeddfwriaeth hon, o ran ei datblygu a’i rhoi ar waith, yw cyfle Cymru i arwain y ffordd wrth ddangos dull cyfannol a chydlynol o fynd ati i sicrhau datblygu cynaliadwy. Rydym o’r farn na all hyn ddigwydd heb gydnabod a chefnogi rôl y trydydd sector yn llawn.
Dros y misoedd nesaf byddwn yn cynnwys mwy yn y gwaith hwn ond yn y lle cyntaf byddem yn ddiolchgar iawn pe bai cynrychiolwyr a rhwydweithiau y Cyngor Partneriaeth yn fodlon cyfrannu. Os yw hyn o ddiddordeb, neu os ydych eisoes yn gweithio ar rywbeth tebyg, cysylltwch â Clare Sain-ley-Berry neu Catherine Miller yn WCVA (manylion isod).
I’r rheini sydd ddim yn gwybod, er mai Environet yw gwasanaeth cymorth WCVA i helpu i feithrin gallu mudiadau trydydd sector i ymwneud â materion a phrosiectau amgylcheddol, mae gennym hefyd rôl ehangach i hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a fi sy’n arwain polisi WCVA mewn perthynas â’r Ddeddf.
Gallwch ddilyn Environet ar twitter ( wcva_ec) ac ymuno â’n rhestr ohebu i gael diweddariadau ynglŷn â hyn a rhannau eraill o’n gwaith. Bydd hefyd ragor o wybodaeth ar gael ar wefan WCVA ar dudalen y Ddeddf maes o law.
Cofion cynnes
Clare
Clare Sain-ley-Berry
Head of / Pennaeth Environet Cymru
WCVA
Baltic House
Mt Stuart square
Cardiff
CF10 5FH
029 2043 1766
[email protected]
|
Catherine Miller
Rheolwr Environet Cymru Manager
WCVA
Morfa Hall
Bath Street
Rhyl
LL18 5FS
01745 357596
07714 541 439
[email protected]
|