Cylchlythyr - 04/04/2025

Friday, 04 April 2025
Cylchlythyr - 04/04/2025
Croeso cynnes i'n haelodau wrth i ni fwynhau cyflwyniad heulog i Ebrill. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i gyflwyno fy hun fel eich golygydd cylchlythyr newydd: Jamie Horton
A warm welcome to our members as we enjoy a sunny introduction to April. I would also like to take this opportunity to introduce myself as your new newsletter editor: Jamie Horton
 
Ydych chi wedi diweddaru eich cyflogres?
Cynyddodd cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r cyfraddau Cyflog Byw Cenedlaethol ar 1af Ebrill 2025.
Dylai pob busnes sicrhau bod eu gweithwyr yn cael eu talu'n gywir. Mae pob busnes yn gallu cymryd camau syml i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol er mwyn osgoi torri'r gyfraith.
Have you updated your payroll?
The National Minimum Wage and National Living Wage rates increased on 1 April 2025.
All businesses should ensure that their workers are paid correctly and can take simple steps to meet their legal responsibilities and avoid breaking the law.
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 

Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Straen

  1. Edrychwch am gyfle i sgwrsio
  2. Mae angen adnabod arwyddion ac achosion straen
  3. Rhaid ymateb i unrhyw risgiau a nodwyd trwy gytuno ar bwyntiau gweithredu
  4. Myfyriwch ar y camau a gymerwyd – a yw pethau wedi gwella?
  5. Adolygwch sut mae pethau'n mynd
April is Stress Awareness Month
  1. Reach out and have conversations   
  2. Recognise the signs and causes of stress    
  3. Respond to any risks identified by agreeing action points  
  4. Reflect on the actions taken – have things improved?    
  5. Make it Routine to check back in on how things are going
Gwyliwch y gweminar a recordiwyd fan hyn | Watch the recorded webinar here
Iechyd Cyhoeddus Cymru I Public Health Wales
 

Sut i greu gweithleoedd
cynhwysol i fenywod

  • dull cyd-gynhyrchiol
  • trefniadau gweithio hyblyg
  • triniaeth deg i fenywod Cymru
  • bod yn agored ac yn empathetig
How we can build inclusive
workplaces for women
  • co-productive approach
  • flexible working arrangements
  • fair Treatment for the Women of Wales
  • openness and empathy
Cliciwch yma am wybodaeth lawn | Click here for full information
 

Dydd Mercher, Ebrill 9fed, 1yp - 3:30yp
Gweithdy i ddatblygu trafodaethau ynglŷn â chomisiynu ar y cyd yn dilyn digwyddiadau’r rhwydwaith Menter Gymdeithasol.

Theatr Byd Bach, Heol y Baddondy, Aberteifi SA43 1JY

Wednesday, April 9 · 1 - 3:30pm
This workshop is to develop collaborative commissioning conversations which have emerged from Social Enterprise Network events.

Small World Theatre. Bath-House Road Cardigan SA43 1JY

Darganfyddwch fwy ac archebwch eich lle | Find out more and book your place
 
Cyllid Ynni Cymru ar gyfer Systemau Ynni Lleol Clyfar yng Nghymru
Gweminar wybodaeth - Mae Ynni Cymru unwaith eto yn lansio cynllun grant cyfalaf gwerth £10 miliwn ar gyfer prosiectau system ynni lleol glyfar.
8/4/2025 13:00
Ynni Cymru funding for Smart Local Energy Systems in Wales
Information webinar - Ynni Cymru is once again launching a £10 million capital grant scheme for smart local energy system projects.
8/4/2025 13:00
Gweminar | Webinar
 
Cronfa Ddatblygu Fforwm Gwerth Cymdeithasol 2025-27
Grant costau refeniw yn unig ar gyfer gwasanaethau ataliol (newydd neu sy’n bodoli’n barod) i’r sector sydd â gwerth cymdeithasol.
Rhaid bod prosiectau wedi'u lleoli ym Mhowys. Dyddiad cau Ebrill 28ain.
 
Social Value Forum Development Fund 2025-27
New or existing social value sector preventative services with projects based in Powys.
Revenue costs only - April 28th deadline.
Dysgu mwy am y gronfa | Learn more about the fund
 

Llais y Lle 
Cronfa newydd i gefnogi unigolion creadigol i weithio gyda chymunedau penodol i ddatblygu'r defnydd ac ehangu perchnogaeth y Gymraeg.
Mae'r Fflint yn ardal o flaenoriaeth.
Dyddiad cau 11/04/2025.

Llais y Lle
A new fund to support creative individuals to work with particular communities to develop the use and widen the ownership of the Welsh language.
Flint is a priority area.
Closing date 11/04/2025.
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Cyfieithir y cylchlythyr hwn gan
Welsh translation for this newsletter by
dai : lingual
 
Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn hysbysebu amrywiaeth o ddigwyddiadau ac adnoddau a datblygwyd gan sefydliadau allanol. Wrth wneud hynny, nid ydym o reidrwydd yn eu cymeradwyo nac argymell, ac nid ydym  yn gyfrifol am eu cynnwys neu eu hansawdd mewn unrhyw ffordd
Social Firms Wales advertise a range of events and resources developed by external organisations. In doing so we do not necessarily endorse or recommend them and we are in no way responsible for content or quality
Hawlfraint | Copyright © 2025 Social Firms Wales, Cedwir pob hawl | All rights reserved.

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved