Clychlythyr - 5/9/2024

Thursday, 05 September 2024
Clychlythyr - 5/9/2024
Croeso i aelodau newydd Menter Fachwen, Menter Gymdeithasol gyda dull sy'n canolbwyntio ar berson o weithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu drwy gysylltu, arddwriaeth, arlwyo a chelf a chrefft.
Welcome to new members Menter Fachwen a Social Enterprise with a person centred approach, working with people who have learning disabilities through horticulture, joinery, catering and art and crafts.
Cliciwch yma i wybod mwy | Click here to find out more
 
Mae Sefydliad y Gweithwyr Dillad yn ariannwr ledled y Deyrnas Gyfunol sy'n cynnig grantiau cyfalaf i sefydliadau nid-er-elw cofrestredig sydd yn cefnogi cymunedau yn wynebu anfantais ac ymyleiddio. Mae'n ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar adeiladau, offer, cerbydau a seilwaith digidol.
The Clothworkers’ Foundation is a UK-wide funder that offers capital grants to registered not-for-profits that support communities facing disadvantage and marginalisation. It funds projects focused on buildings, equipment, vehicles and digital infrastructure.
Sicrhewch a ydych chi'n gymwys | Check out your eligibility
 
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Cronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Ffynnon Oer.
Mae'r grant yn agored i sefydliadau cymunedol, grwpiau gwirfoddol ac ysgolion yng Nghwm Afan Uchaf (ardaloedd Glyncorrwg, Cymer a Croeserw) a Chwm Castell-nedd (ardaloedd Resolfen, Clun a Melingwrt).

Gellir defnyddio'r cyllid i gefnogi prosiectau a fydd o fudd i'r gymuned leol, megis gweithgareddau elusennol, amgylcheddol ac anstatudol. Dyddiad cau 30 Medi
Applications are now open for the Ffynnon Oer Wind Farm Community Benefit Fund.
The grant is open to community organisations, voluntary groups and schools in the Upper Afan Valley (Glyncorrwg, Cymer & Croeserw areas) and Neath Valley (Resolven, Clyne and Melincourt areas).

The funding can be used to support projects that will benefit the local community, like charitable, environmental and non-statutory educational activities. Deadline 30 September

Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Bydd Cronfa Ôl-osod Cymdeithas Dai’r Principality
yn cefnogi sefydliadau ledled Cymru i wella eu heffeithlonrwydd ynni drwy ôl-osod adeiladau neu offer prynu a fydd yn gwneud adeilad neu ofod cymunedol yn fwy ecogyfeillgar ac/neu effeithlon yn amgylcheddol.
The Principality Building Society’s Retrofit for the Future 
This fund will support organisations across Wales to improve their energy efficiency by retrofitting buildings or purchasing equipment that will make a building or community space more environmentally friendly and/or environmentally efficient.
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Mae Sefydliad Waterloo yn sefydliad cynnig grantiau annibynnol sydd wedi'i wreiddio'n gadarn yng Nghymru ac mae’n dyrannu cyllid i dri mater pwysig:
  • Gofalwyr di-dâl
  • Ecwiti mewn Addysg
  • Llwybrau allan o Dlodi
The Waterloo Foundation is an independent grant-giving foundation firmly rooted in Wales and has allocated funding to three important issues: 
  • Unpaid Carers
  • Equity in Education
  • Pathways out of Poverty
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Cynhelir Arddangosfa Microbusnesau a'r Trydydd Sector 2024 yn Procurex Cymru Ddydd Mawrth 5 Tachwedd 2024 yn ICC Cymru yng Nghasnewydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â'r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r arddangosfa yn cynnig stondinau arddangos â chymhorthdal i dynnu sylw at y cyfraniadau hanfodol y mae cyflenwyr llai yn eu gwneud i gaffael cyhoeddus yng Nghymru. Maent yn gwahodd sefydliadau sy'n bodloni'r meini prawf i gyflwyno 'Datganiad o Ddiddordeb' erbyn Dydd Mercher 19 Medi 2024.

Llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb heddiw i gyfranogi i’r digwyddiad cyffrous hwn.
'2024 Micro & Third Sector Showcase at Procurex Wales' is taking place on Tuesday 5 November 2024, at the ICC Wales in Newport. The Welsh Government is hosting this event in partnership with the Centre for Public Value Procurement at Cardiff University.

The Showcase offers subsidised exhibition stands to highlight the vital contributions smaller suppliers make to public procurement in Wales. They are inviting organisations that meet the criteria to submit an ‘Expression of Interest’ by Wednesday 19 September 2024

Complete the Expression of Interest form today to take part in this exciting event.
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Cyflwyniad Dementia
Hyfforddiant ar-lein am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddementia. Gallai hyn gynnwys gofalwyr di-dâl, staff gofal a chymorth, gwirfoddolwyr neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector.
Introduction to dementia
Free online training for people living in Wales who are interested in learning more about dementia. This could include unpaid carers, care and support staff, volunteers or anyone interested in working in the sector.
Dewiswch eich dyddiad yma | Choose your date here
 
Byddai CGGC yn gwerthfawrogi eich mewnwelediadau ar y cam tyngedfennol hwn yn y gwaith o ddatblygu adnewyddiad o God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector. Mae cyfleoedd i chi gymryd rhan wyneb yn wyneb neu ar-lein fel a ganlyn.
   Bydd ein digwyddiadau yn edrych ar senarios lle mae dilyn yr egwyddorion wedi:
  • arwain at brofiadau cyllido ac effaith bositif i’r rheini sydd wedi derbyn cyllid gan y sector cyhoeddus, neu
  • newid profiad rhywun sydd wedi derbyn cyllid mewn ffordd bositif neu atal effeithiau negyddol.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau ac i archebu lle, cliciwch ar ddolenni’r digwyddiadau uchod. 
WCVA would value your insights at this crucial stage of the development of a refresh of Welsh Government's Code of Practice for Funding the Third Sector. There are opportunities for you to engage in person or online as follows.
  The events will explore scenarios where applying the principles has:
  • led to positive funding experiences and impact for public sector funding recipients, or
  • has positively changed a funding recipient’s experience or prevented negative impacts.
For more information about the events and to book your place please click on the events links above.
 
Cyfieithir y cylchlythyr hwn gan
Welsh translation for this newsletter by
dai : lingual
 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved