We are pleased to share with you that Rosie Cribb will soon be taking over the helm of Social Firms Wales. Rosie starts her new post on 3rd April taking over from San Leonard, retiring CEO, after almost 2 decades of commitment to the social enterprise sector in Wales. Many of you will know Rosie from Funding Assist. Rosie brings a wealth of knowledge, experience and expertise to the role having worked in the Third Sector for 22 years. She has first-hand experience of developing several social enterprises across the years especially those dedicated to creating jobs and opportunity to disabled people.
She is looking forward to taking up the role and meeting everyone. Rosie says, “I am delighted to take up the role of CEO of Social Firms Wales this April. I’m grateful to the board for the opportunity to lead this small but dynamic organisation, supporting the growth and sustainability of social firms across the country. . I have a long history of working within the Social Enterprise and charity sector, and I’m excited to work with members, partner organisations, and all stakeholders to drive forward new opportunities and support the creation of meaningful employment for anyone who experiences exclusion within the labour market. I look forward to getting to know you all.”
Rydym yn falch i ddatgan y bydd Rosie Cribb yn cymryd llyw Cwmnïau Cymdeithasol Cymru cyn bo hir. Bydd Rosie yn dechrau ei swydd newydd ar 3ydd Ebrill gan gymryd yr awenau o San Leonard, ein Prif Swyddog Gweithredol sy'n ymddeol wedi bron i 2 ddegawd o ymrwymiad i'r sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd llawer ohonoch yn adnabod Rosie o Funding Assist. Gan Rosie cyfoeth o wybodaeth, profiad ac arbenigedd ar gyfer y rôl ar ôl gweithio yn y Trydydd Sector am 22 mlynedd. Mae ganddi brofiad uniongyrchol o ddatblygu sawl menter gymdeithasol dros y blynyddoedd, yn enwedig rhai sy'n ymroddedig i greu swyddi a chyfle i bobl anabl.
Mae hi'n edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith a chwrdd â phawb. Meddai Rosie, "Rwy'n falch iawn o ymgymryd â rôl Prif Swyddog Gweithredol Cwmnïau Cymdeithasol Cymru ym mis Ebrill. Rwy'n ddiolchgar i'r bwrdd am y cyfle i arwain y sefydliad bach ond deinamig hwn, gan gefnogi twf a chynaliadwyedd cwmnïau cymdeithasol ledled y wlad. Mae gen i hanes hir o weithio yn y sector Menter Gymdeithasol ac elusennol, a rydw i'n teimlo'n gyffrous i weithio gydag aelodau, sefydliadau partner, a'r holl randdeiliaid i ysgogi cyfleoedd newydd a chefnogi creu cyflogaeth ystyrlon i unrhyw un sy'n cael eu hallgau o’r farchnad lafur. Edrychaf ymlaen at ddod i adnabod chi gyd." |
|