£149,946 ar gyfer prosiect ymchwil yng Nghymru dan arweiniad pobl anabl, wedi'i ariannu gan y Loteri Fawr

Thursday, 25 January 2018
£149,946 ar gyfer prosiect ymchwil yng Nghymru dan arweiniad pobl anabl, wedi'i ariannu gan y Loteri Fawr

Mae'n bleser gan Gwmnïau Cymdeithasol Cymru a Chwmni Buddiant Cymunedol Barod gyhoeddi y byddwn yn gweithio mewn partneriaeth dros y ddwy flynedd nesaf gyda Phobl yn Gyntaf Sir Gâr, Pobl yn Gyntaf Dorset a sefydliad o Rydychen o’r enw ‘My Life My Choice’ ar brosiect o'r enw Y Bont. Meddai Anne Collis, arweinydd y prosiect, Rhoddwyd yr enw Y Bont i'r prosiect gan mai ein nod yw pontio o'r sefyllfa bresennol sy'n gweld gormod o bobl sydd ag anawsterau dysgu'n gweithio am ddim gyda'u sefydliadau'n brwydro i gael arian, i dyfodol sy'n gweld unigolion a sefydliadau'n cael eu talu'n dda am eu gwaith”.

 
Mae pobl sydd ag anawsterau dysgu ar draws y Deyrnas Unedig wedi datblygu sgiliau hynod ddymunol trwy gymryd rhan mewn hunan-eirioli, ac yn ymwneud â gwaith polisi a dylunio gwasanaethau lefel uchel. Er hynny, yn anaml iawn y gallant sicrhau gwaith a delir yn dda sy'n defnyddio'r sgiliau hyn, ac mae llawer o grwpiau'n brwydro i ddod o hyd i arian.
 
Pum mlynedd yn ôl sefydlodd grŵp bach o bobl, rhai gydag anawsterau dysgu a rhai heb, Gwmni Buddiant Cymunedol Barod i greu eu swyddi eu hunain a rhedeg eu busnes eu hunain. Yn ddiweddar, elwodd Barod o gefnogaeth twf busnes gan Gwmnïau Cymdeithasol Cymru, a ariennir gan Fusnes Cymdeithasol Cymru, gan arwain at y syniad o ddau fudiad yn dod ynghyd ar brosiect ymchwil i gefnogi a gweithio ochr yn ochr â nifer bach o sefydliadau hunan-eirioli a oedd am greu gwaith â thâl ar gyfer aelodau neu gynhyrchu incwm i'r sefydliad. Diolch i'r grant hwn gan y Gronfa Loteri Genedlaethol, trwy DRILL (Disability Research on Independent Living and Learning), dros y ddwy flynedd nesaf bydd y pum sefydliad hyn yn cydweithio i adeiladu dyfodol mwy disglair dros bobl sydd ag anawsterau dysgu ac ar gyfer sefydliadau hunan-eirioli.

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved