Newyddion diweddaraf - Diweddariad hawdd i ddarllen wythnosol am ddigwyddiadau, ariannu, hyfforddiant a mwy. Cysylltwch â ni pe baech am rannu unrhyw newyddion!

 
Cronfa i Gymru
Grantiau o rhwng £500 – £2,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd ar gael i sefydliadau sydd yn:
  • Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd,
  • Adeiladu cymunedau cryfach,
  • Gwella amgylcheddau gwledig a threfol,
  • Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol +
  • Diogelu treftadaeth a diwylliant
Dyddiad cau 17 Chwefror
Fund for Wales
Grants of between £500 – £2,000 per annum for up to 3 years available to organisations who:
  • Improving people’s chances in life,
  • Building stronger communities,
  • Improving rural and urban environments,
  • Encouraging healthier and more active people and communities, and
  • Preserving heritage and culture
Deadline 17 February
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Mae cynllun grantiau Cefnogi Cymunedau Gwledig ar agor nawr ar gyfer datganiadau o ddiddordeb. Bydd y cyllid gwahaniaethol newydd hwn yn cefnogi mentrau trawsnewidiol dan arweiniad y gymuned leol ledled y Deyrnas Gyfunol, gan ddatgloi'r potensial enfawr ar gyfer newid cadarnhaol mewn cymunedau gwledig. Y nod yw cefnogi atebion arloesol a fydd yn cynnal a grymuso cymunedau, gan ysbrydoli newid ac annog bywiogrwydd economaidd. Dyddiad cau 21 Chwefror
Supporting Rural Communities grant programme is now open for expressions of interest. This new differentiated funding will support transformative, community-led initiatives across the UK, unlocking the huge potential for positive change in rural communities. The aim is to support innovative solutions that will “power up, not prop up” communities, inspiring change and encouraging economic vibrancy. Deadline 21 February
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Cwrs hyfforddiant AM DDIM ar gyfer rheolwyr yn y sector cymdeithasol (gwerth £1,695 + TAW!)
Fel rhan o'u heffaith gymdeithasol, mae Roots HR wedi ailagor ceisiadau ar gyfer 8 wythnos o fodiwlau poblogaidd ac effeithiol iawn sydd ar gyfer y bobl sy'n newydd i reoli llinell, neu erioed wedi derbyn hyfforddiant mewn rheoli llinell. Bydd cyfranogwyr yn dysgu am reoli gweithwyr o ddydd i ddydd. Trwy fodiwlau rhyngweithiol, a gyflwynir ar-lein, byddwn yn ymdrin â phynciau gan gynnwys:
  • Recriwtio a dethol effeithiol
  • Rheoli perfformiad
  • Trafod sgyrsiau anodd
  • Gweithleoedd lles ac iechyd
  • Datblygu eich tîm
FREE training course - HR for social sector line managers (valued at £1,695 + VAT!) 
As part of their social impact, Roots HR have reopen applications for their popular and highly effective 8-week, modular geared towards those new to line management or have never received training in line management, participants will learn about managing employees on a day-to-day basis. Via interactive modules, delivered online, we will cover topics including:
  • Effective recruitment and selection
  • Managing performance
  • Handling difficult conversations
  • Wellbeing and health workplaces
  • Developing your team
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 
Sefydliad Banc Lloyds - Cefnogi Elusennau i Ddylanwadu
Maent wedi ymrwymo i gefnogi elusennau i ddatblygu eu gallu i ddylanwadu ar newid yn y materion sy'n bwysig iddyn nhw. Maent yn cynnig ystod o gefnogaeth sydd wedi'i chynllunio i gryfhau hyder, cymwyseddau a sgiliau, a'r gallu i weithredu.
Lloyds Bank Foundation - Supporting Charities to Influence
They are committed to supporting charities to develop their ability to influence change on the issues that matter to them. They offer a range of support designed to strengthen confidence, competencies and skills, and capacity to act.
Darllenwch fwy yma | Read more here
 
Cyfieithir y cylchlythyr hwn gan
Welsh translation for this newsletter by
dai : lingual
 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved