Newsletter - 20/4/2023

Thursday, 20 April 2023
Newsletter - 20/4/2023
Mae Egin yn cefnogi cymunedau yng Nghymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd a byw yn fwy cynaliadwy trwy gynnig cymorth Mentora Cymheiriaid. 

Gall grwpiau dderbyn hyd at 3 diwrnod o gymorth Mentora Cymheiriaid yn rhad ac am ddim, gan gynnwys creu Cynllun Gweithredu a defnyddio Pecyn Cymorth Monitro a Gwerthuso. Pan fydd grwpiau wedi creu Cynllun Gweithredu, mae'n bosib y byddan nhw'n gymwys i dderbyn grant o hyd at £15,000 Camau Cynaliadwy Cymru.

Maen nhw'n arbennig o awyddus i helpu grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio; megis cymunedau o hil leiafrifol, pobl anabl neu bobl o statws economaidd-gymdeithasol isel.
Egin supports communities in Wales to tackle climate change and live more sustainably by offering Peer Mentoring support. 

Groups can receive up to 3 days of free Peer Mentor support, including creating an Action Plan and the use of a Monitoring and Evaluation Toolkit. When groups have made an Action Plan, they may be eligible for a grant of up to £15,000: Sustainable Steps Wales.

They're especially keen to help those marginalised groups, such as racialised minority communities, disabled people or those in low socio-economic brackets. 
Darganfyddwch fwy yma | Discover more here
 
Mae’r ymddiriedolaeth Triangle Trust bellach ar agor i geisiadau sy'n cefnogi gwaith gyda phobl ifanc sydd ag euogfarnau troseddol neu'r rheini sydd â risg uchel o gyflawni trosedd gyntaf.
Yn 2023 byddant yn ariannu gwaith sy'n defnyddio dull Chwaraeon er Datblygiad i leihau cyfraddau aildroseddu a chyfraddau trosedd cyntaf
Triangle Trust are now open for applications supporting work with young people with criminal convictions or those who are at high risk of committing a first offence.

In 2023 they will be funding work that uses a Sport for Development approach to reduce reoffending and first offence rates.

Darganfyddwch fwy yma | Discover more here
 
Cronfa Perchnogaeth Gymunedol
Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru yw partner cyflenwi Cymraeg y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Mae'r gronfa £150m hon yn bodoli i helpu cymunedau ledled y Deyrnas Gyfunol i berchnogi asedau sydd mewn perygl o gau - o barciau i dafarndai, o byllau nofio i lyfrgelloedd. Bydd ar agor tan 2024/25. Gall grwpiau ymgeisio am hyd at £250k i brynu neu brydlesu ased lleol neu helpu dalu am waith adnewyddu.
Community Ownership Fund
DTA Wales is the Welsh delivery partner of the Community Ownership Fund. The £150m Fund exists to help communities across the UK to take ownership of assets at risk of closure from parks to pubs, lidos to libraries. It will run until 2024/25. Groups can apply for up to £250k to purchase or lease a local asset or to help pay for refurbishments. 
Darganfyddwch fwy yma | Discover more here
 
Gwefan 'Cymorth i Dyfu' ar gyfer busnesau
Mae'r Adran Busnes a Masnach wedi datgelu gwefan ganolog newydd, gyda'r amcan o gefnogi 5.5 miliwn busnes Y Deyrnas Gyfunol.  Nod y safle newydd yw uwchsgilio busnesau bach a mawr ledled y wlad trwy eu helpu:
  • dysgu sgiliau newydd
  • cyrraedd mwy o gwsmeriaid
  • rhoi hwb i elw busnes
'Help to Grow’ website for businesses
The Department for Business and Trade (DBT) has unveiled a new centralised website, targeted at helping the UK’s 5.5 million businesses.  The new ‘Help to Grow’ site from DBT is aimed at upskilling both big and small businesses across the country by helping them to:
  • learn new skills
  • reach more customers
  • boost business profits
Darganfyddwch fwy yma | Discover more here
 
Rhannwch eich barn am Gyllid datblygu rhanbarthol wedi'r UE...
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Senedd Cymru am glywed gan sefydliadau sector gwyrfoddol, busnesau, colegau a phrifysgolion yng Nghymru ynglŷn â'u safbwyntiau ar Gyllid datblygu rhanbarthol wedi'r UE (mae hyn yn cynnwys safbwyntiau ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin, y Gronfa Ffyniant Bro, a Chronfeydd Strwythurol yr UE).

Nod yr arolwg hwn yw casglu ymatebion pobl a phrofiadau bywyd sy'n gysylltiedig â'r ffrydiau cyllid hyn. Os hoffech chi ddweud eich dweud, cwblhewch yr arolwg hwn. Dylai gymryd 10-15 munud i'w gwblhau.

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Llun 15 Mai 2023.
Have your say on Post-EU regional development funding...
The Economy, Trade, and Rural Affairs Committee of the Welsh Parliament (Senedd) wants to hear from individual voluntary sector organisations, businesses, colleges and universities in Wales about their views on Post-EU regional development funding (this includes views on the Shared Prosperity Fund, the Levelling Up Fund and EU Structural Funds). 

This survey aims to collect people's responses and lived experiences of these funding streams. If you would like to have your say, please complete this survey. It should take 10-15 minutes to complete. 

This survey will close on Monday 15 May 2023. 
Cwblhau'r arolwg | Complete the survey
 
Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru - Tachwedd 2023

Eleni, thema'r gynhadledd bydd iechyd a lles pobl sydd ag anabledd dysgu.
 
Rydyn ni'n gwybod bod pobl sydd ag anabledd dysgu yn tueddu i gael iechyd salach, ac maen nhw mewn mwy o berygl o ddatblygu gwahanol gyflyrau iechyd.

Ydych chi eisiau cyfranogi? - Maent yn chwilio am bobl a sefydliadau yng Nghymru sydd am gyfrannu i'r gynhadledd hon.
Learning Disability Wales Annual Conference - November 2023

This year the theme will be on health and well-being of people with a learning disability. 

We know that people with a learning disability tend to have poorer health compared to those without, and they are at a higher risk of developing various health conditions.

Do you want to get involved? -  They are looking for people and organisations in Wales who want to contribute to this conference. 
Cliciwch yma am wybodaeth lawn | Click here for more information
 
Mae'r elusen hon yn cynnig cyngor cyfreithiol pro bono ar gyfer unigolion a mudiadau dielw nad sydd fel arall yn gymwys i gael cyngor cyfreithiol am ddim.
This charity offers pro bono legal advice for individuals and non-profits who are not eligible for free legal advice. 
Darganfyddwch fwy yma | Find out more here
 

 

Stay connected with our social network

Twitter Feed

Newsletter Sign Up

Subscribe

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved