Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod
Mae DADA (ADR yn Saesneg) yn effeithio ar bob masnachwr sy'n gwerthu nwyddau a gwasanaethau i ddefnyddwyr; mae'r rheoliadau'n berthnasol i unig fasnachwyr a chwmnïau cyfyngedig, p'un a ydynt yn gweithio o fangre busnes neu gartref. O gwmnïau garddio, caffis, tafarndai ac allfeydd manwerthu mawr, i siopau cornel, gorsafoedd petrol a hyd yn oed faniau hufen iâ, maent oll yn ddarostyngedig i'r rheoliadau hyn os nad yw eu proses trin cwynion mewnol wedi gallu datrys yr anghydfod.
Mae DADA yn broses ar gyfer datrys anghydfod y tu allan i'r llys. |
Alternative Dispute Resolution (ADR)
ADR affects all traders who sell goods and services to consumers, the regulations are relevant to sole traders and limited companies, whether working from a business premises or at home. From gardening companies, cafés, pubs and large retail outlets, through to corner shops, petrol stations and even ice cream vans, they are all subject to these regulations if their internal complaints handling process has not been able to resolve the dispute.
ADR is a process for the resolution of a dispute out of court.
|
|