Sut i greu cais cryf

• Gwiriwch beth fydd, ac na fydd yr arianwyr yn ei gyllido.

• Mae rhai cyllidwyr hefyd yn derbyn ceisiadau fideo – edrychwch am fanylion o hyn ar eu gwefan.

• Os ydych wedi gwirio eu gwefan ond methu dod o hyd i atebion i'ch cwestiynau, ffoniwch neu e-bostiwch y cyllidwr.

• Defnyddiwch iaith syml. Os oes rhaid defnyddio jargon, rhowch esboniad.

• Rhaid i chi ddangos bod yna alw lleol am eich gweithgaredd/prosiect. Ymchwiliwch yn lleol, gan gynnwys siarad â'r bobl a fydd yn elwa o'ch gweithgaredd/gwasanaethau/nwyddau.

• Cyflwynwch neu anfonwch gais cyn gynted ag y gallwch, cyn y dyddiad cau.

• Ffurflenni ar-lein: Copïwch y cwestiynau i ddogfen, a gweithiwch yno nes eich bod yn barod i ychwanegu'r wybodaeth at y ffurflen.

• Costau a chyllideb - cadwch wybodaeth am sut rydych chi wedi'u cyfrifo -  weithiau mae arianwyr yn gofyn, ac mae’n ddefnyddiol i chi hefyd.

• Nifer y buddiolwyr - byddwch yn realistig, gan gynnwys gwybodaeth i ddangos sut y gwnaethoch gyfrifo’r rhifau.

• Cadwch ddogfennau y mae cyllidwyr yn gofyn amdanynt mewn un ffeil fel eu bod yn hawdd dod o hyd iddynt, gan gynnwys eich cyfrifon diweddaraf, polisïau, dogfen lywodraethol (e.e., Cyfansoddiad, Erthyglau) rhestr staff, rhestr ymddiriedolwyr, cynllun busnes.

• Mae gwerth am arian yn golygu ansawdd, nid rhifau uchel bob tro.

Cysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth new gyngor arnoch

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl