Nawdd

Beth yw nawdd?

Nawdd yw cefnogaeth ar ffurf arian, nwyddau, neu wasanaethau gan un sefydliad, yn aml yn fusnes preifat, i un arall – elusen neu fenter gymdeithasol. Mae'r ddau yn elwa o fwy o gyhoeddusrwydd cadarnhaol, yn cyrraedd mwy o'u cymuned darged a chwsmeriaid.

 

Awgrymiadau er mwyn dod o hyd i'r noddwr cywir

• Cofiwch, mae angen bod yn amyneddgar wrth adeiladu perthynas da

• Rhaid adnabod eich busnesau lleol - gwnewch restr drwy ofyn i bobl rydych chi'n eu hadnabod a oes ganddynt gysylltiadau â busnesau; siaradwch â busnesau lleol

• Ymchwil: Darganfyddwch gymaint ag y gallwch am y noddwr posibl


• Adroddwch eich stori a byddwch yn glir am yr hyn rydych chi am i'r nawdd ei gyflawni - dangoswch hynny mewn fformat y gellir ei rannu e.e. e-bost, fideo, PowerPoint.

• Gwahoddwch y busnes i weld y gwaith rydych chi'n ei wneud i helpu i ddeall beth rydych chi am ei gyflawni ar gyfer y gymuned

• Gofynnwch sut y gall y busnes helpu e.e. nwyddau, help gan staff, arian, cyhoeddusrwydd – cytunwch ar hyn yn ysgrifenedig gan fonitro’r cynnydd

• Gall nawdd fod yn untro (e.e. ar gyfer digwyddiad) neu ar gyfer y tymor hir. Fel unrhyw bartneriaeth, rhaid i'r noddwr a'r fenter noddedig cael cynnydd ohono.

• Mae'n debyg y bydd y busnes neu'r noddwr eisiau eu logo wedi ei arddangos a'i grybwyll mewn cyhoeddusrwydd ac ar y cyfryngau cymdeithasol – mae noddi mentrau cymdeithasol yn rhoi proffil a chyhoeddusrwydd cymunedol cadarnhaol i 

• Mae angen i'r busnes fod yn weddus i'ch menter a rhaid i'r nawdd fod yn gadarnhaol ac yn ddefnyddiol i'r ddau

•  Diolch i'r busnes a dywedwch wrthynt sut mae eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth

• Fel grantiau mae yna lawer o noddwyr posib; nid yw gwrthod o un yn golygu y bydd eraill yn gwrthod!

 

Fideo defnyddiol am nawdd corfforaethol gan Sported UK

Mae Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Sported UK, Tom Burstow wedi bod yn codi arian ers 20 mlynedd. Mae fideo You Tube yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol yn seiliedig ar ei brofiadau gyda chwmnïau masnachol

Iyflwyniad i godi arian corfforaethol o Fai 2020 - YouTube

Ffynonellau nawdd posibl

• Busnesau yn eich ardal chi – siopau, ffatrïoedd, warysau

• Gofynnwch i bobl rydych chi'n eu hadnabod gan gynnwys eich rhwydweithiau, rhanddeiliaid, cyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr, teulu, ffrindiau a chymuned - efallai eu bod yn eu hadnabod neu'n gweithio i rywun neu fusnes a allai eich cefnogi

• Y busnesau rydych chi'n prynu eich nwyddau ganddyn  nhw

• Elusennau lleol mawr

• Mentrau cymdeithasol

 

Cysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth new gyngor arnoch

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl