Benthyciadau a Buddsoddiadau Cymdeithasol

Beth yw buddsoddiad cymdeithasol?

Buddsoddiad cymdeithasol yw cyllid benthyciad (arian a fenthycwyd) neu weithiau cymysgedd o grant a benthyciad i fusnesau – a elwir yn gyllid cyfunol. Mae buddsoddwyr cymdeithasol yn hoffi benthyca i fentrau cymdeithasol neu amgylcheddol. Rhaid talu'r benthyciad yn ôl, a bydd yna gytundeb gyda phob buddsoddwr sut mae gwneud hynny

 

Awgrymiadau - Paratoi ar gyfer buddsoddiad cymdeithasol

 

• Gwybodaeth, ysbrydoliaeth, dysgu : darllenwch astudiaethau achos / straeon ar wefannau buddsoddwyr cymdeithasol.

• Llywodraethu da – mae sut mae'r ymddiriedolwyr / bwrdd y cyfarwyddwyr yn rheoli’r sefydliad yn hanfodol – mae arweinyddiaeth dda yn allweddol i gael gafael ar fenthyciadau - mae'r rhan fwyaf o fentrau yn methu oherwydd arweinyddiaeth a llywodraethu gwael.

• Byddwch yn glir pam mae angen y benthyciad arnoch (marchnad, galw) a sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wneud gwahaniaeth i'r gymuned, a sut y byddwch yn ad-dalu'r benthyciad.

• Meddyliwch am unrhyw risgiau a sut y byddech yn cael gwared ar neu leihau'r rhain

• Mae cyllid neu incwm arall sydd wedi - neu y byddwch yn ei sicrhau - yn dangos ymrwymiad.

• Rhowch wybod i'r buddsoddwr am eich cryfderau a'ch sgiliau wrth reoli busnes.

• Benthyciad wedi ei gwrthod ? Mae buddsoddwyr cymdeithasol yn hapus i gynnig adborth.

• Nid yw gwrthod gan un buddsoddwr cymdeithasol yn golygu y bydd eraill yn gwrthod hefyd.

• Rhagamcanion ariannol realistig – mae buddsoddwyr yn deall nad yw mentrau yn aml yn dangos elw yn y camau cynnar gan gynnwys y flwyddyn gyntaf.

• Gofynnwch am help os oes angen.

•  Rhowch gynnig ar declyn gwirio buddsoddi cymdeithasol Good Finance

Erthygl ddefnyddiol yn esbonio buddsoddiad cymdeithasol 

 

Cyllid Islamaidd neu Shari’ah 

Weithiau gelwir yr egwyddorion moesol y mae llawer o Fwslimiaid yn dilyn fel y 'Shari'ah’.

Mae cyllid Sharia yn seiliedig ar gred na ddylai arian fod ag unrhyw werth ynddo'i hun - dim ond ffordd o gyfnewid cynnyrch a gwasanaethau sydd â gwerth.

Yn ganolog i gyllid Islamaidd yw'r ffaith nad oes gan arian ei hun unrhyw werth cynhenid. Fel mater o ffydd, ni all Mwslim fenthyca arian i, na derbyn arian gan rywun a disgwyl elwa - ni chaniateir llog (a elwir yn riba). Gwaherddir gwneud arian o arian ei hun – dim ond trwy fasnach gyfreithlon a buddsoddiad mewn asedau y gellir cynhyrchu cyfoeth. Rhaid defnyddio arian mewn ffordd gynhyrchiol er mwyn cydymffurfio â Sharia

Gall unrhyw un ddefnyddio cynhyrchion a gwasanaethau cyllid Islamaidd.


Darllenwch – goodfinance.org.uk/latest/post/understanding-shariah-compliant-investment-simple-guide gan Good Finance

Gwrandewch - podlediad am wasanaeth / prosiect a gyllidir gan Sharia yma

Rhestr o sefydliadau buddsoddi cymdeithasol

Loans and investment-based funding to address social issues including inequalities & poverty.

Isafswm benthyciad o £50,000 i gwsmeriaid newydd
 

Benthyciadau ar gyfer materion cymdeithasol ac amgylcheddol

Benthyciadau o £50,000 i £250,000 gyda chyfradd llog canllaw o tua 7% trwy CGGC ar gyfer busnesau cymdeithasol yng Nghymru sydd eisiau ehangu, prynu ased (e.e. adeilad). Yn ceisio benthyg pan na fydd eraill

Benthyciadau ar gyfer y sector cydweithredol a mentrau cymdeithasol.

Mae'r cyfraddau’n gystadleuol ac nid oes angen gwarantau personol arnynt

Benthyciadau hyd at £300,000

Drwy CGGC, ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Cyllid benthyciad ar gyfer grwpiau sy'n bwriadu dod ag eiddo i berchnogaeth gymunedol. Gall y gronfa ariannu hyd at 100% o werth yr eiddo

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen i ddechrau, cryfhau a thyfu.

Benthyciadau yn amrywio o £1k i £10m dros gyfnod o hyd at 15 mlynedd gyda chyfraddau llog sefydlog.

Benthyciadau ar gyfer unrhyw faint o fusnes ar unrhyw adeg - busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu, i drafodion olyniaeth gan gynnwys pryniannau gweithwyr

Benthyciadau rhwng £50,000 a £1,500,000

Helpu busnesau cymdeithasol cyflym i dyfu eu heffaith. Ei nod yw gwneud buddsoddiad cymdeithasol yn well ar gyfer sylfaenwyr o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, a'u timau

Benthyciadau £30,000 i £750,000

SCC yw enw'r elusen sy'n cael ei hariannu a'i chefnogi gan NatWest i helpu mentrau cymdeithasol . Mae SCC yn cynnig cyllid amgen i elusennau busnes a mentrau cymdeithasol nad ydynt yn gymwys i gael benthyciadau prif ffrwd 

Benthyciadau o £1,000 i £25,000 ar gael.

Mae'r swm yn dibynnu ar eich cynllun busnes. Yn darparu benthyciadau busnes, personol, menter gymdeithasol a gwella cartrefi ledled Cymru

Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cefnogi mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn ariannol gydag amrywiaeth o grantiau a benthyciadau

Isafswm benthyciad £250,000. Yn cefnogi busnesau/sefydliadau sy'n mynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol mewn modd cadarnhaol

 

Cysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth new gyngor arnoch

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl