Modd o gasglu arian yw ariannu torfol:
• Drwy'r rhyngrwyd, lle mae pobl yn cyfrannu at achos.
• Prosiect, gweithgaredd neu fenter
• Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad ofyn am roddion.
Mathau o ariannu torfol
• Ariannu torfol ecwiti - yn rhoi perchnogaeth rannol neu gyfranddaliadau busnes am daliad/au.
• Rhoi - Nid yw rhoddwyr yn cael unrhyw wobrau ariannol, felly fe'i defnyddir amlaf at ddibenion elusennol neu gan fudiadau dielw megis mentrau cymdeithasol. Nid oes rhaid i chi ad-dalu rhoddwyr.
• Gwobrau - Gall cynnig gwobrau (ond nid cyfranddaliadau) annog pobl i roi arian. Gall fod gwahanol lefelau gwobrwyo yn dibynnu ar faint o arian sy'n cael ei roi i'r busnes.
Ceir nifer o lwyfannau codi arian ar-lein, felly ymchwiliwch yn ofalus, gan fod y rhan fwyaf o'r wybodaeth ar y rhyngrwyd am lwyfannau yn ymwneud â hyrwyddo ariannwr penodol.
Weithiau mae cwmnïau ariannwr torfol yn creu partneriaeth gyda sefydliadau lleol neu genedlaethol - Enghreifftiau yw Crowdfunder Chwaraeon Cymru a Cyllido Torfol Abertawe.
Paratoi ar gyfer ariannu tofol a rhoddion ar-lein
• Byddwch yn glir am yr hyn y mae angen cyllid arnoch ar ei gyfer a'ch targed
• Dewis llwyfan ariannu torfol – rhestr gwirio:
-
Gwnewch yn siŵr bod y platfform yn hawdd ei ddefnyddio – i chi ac i roddwyr.
-
Mae'r rhan fwyaf o wefannau yn codi ffioedd – darganfyddwch pa un sydd orau i chi a hefyd yn hawdd i'w defnyddio – edrychwch ar wybodaeth Charity Digital yma.
-
Faint o ddyddiau y gall eich apêl barhau?
-
Beth sy'n digwydd ar ôl dyddiad cau apêl – ydych chi'n cael yr holl arian rydych chi wedi'i godi hyd yn hyn, hyd yn oed os nad ydych chi wedi cyrraedd eich targed? A oes costau ychwanegol i'w talu?
-
Sut ydych chi'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd?
-
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn rhoi ar ddechrau a diwedd apêl - gall colli diddordeb yn y canol, felly mae'n dda atgoffa pobl.
• • Pitshwch gydag angerdd – rydych chi'n cystadlu gyda llawer o brosiectau eraill!
• Defnyddiwch eich holl ddulliau cyfryngau cymdeithasol/cyfathrebu i roi gwybod i bobl am eich apêl – efallai na fydd llawer o roddwyr wedi cyfrannu drwy ariannu torfol o'r blaen.
• Diolch i roddwyr yn gwybod ac yn dweud sut gwnaethoch wario'r arian.
• Gwyliwch neu gwrandewch ar y fideos ar wefannau cyllido torfol am ysbrydoliaeth neu ddysgu.
• Mae'r blog hwn gan Charity Digital yn ymwneud â safleoedd codi arian ar-lein neu elusennau https://charitydigital.org.uk/topics/the-best-online-fundraising-platforms-for-charities-5324
Mae'n cynnwys awgrymiadau ar sut i gynnal ymgyrch.
Ar gyfer grwpiau cymunedol, busnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol – enghreifftiau o straeon, awgrymiadau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, canolfan wybodaeth
Elusen gofrestredig. Maent yn gwerthu neu'n rhentu dyfeisiau trafodion cardiau sy'n gallu cael eu dal yn eich dwylo.
Gall rhoddwyr posibl sydd â chyfrifon banc rhyngrwyd gyfrannu'n uniongyrchol i'ch cyfrif busnes yn hawdd trwy ddefnyddio cod QR. Gellir arddangos y cod QR hefyd ar eitemau gan gynnwys blychau rhoddion, gwefannau, crysau-t, bwcedi casglu, ffenestri siopau, nwyddau rydych chi'n eu gwerthu.
Ar gyfer unigolion, grwpiau cymunedol, busnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol. Mae'r arian a godir yn cael ei anfon i'ch cyfrif.
Yn cysylltu mentrau newydd gyda buddsoddwyr ac yn cynnig cymorth i fusnesau cychwynnol i ddatblygu.
Yn cynnwys hyfforddiant i ddatblygu mentrau cymdeithasol a chymuned ar-lein.
• Ceisiadau’n agor yn y gwanwyn a'r hydref.
• Cyllid cyfatebol o hyd at 50% - uchafswm o £5,000
Sylwch- rhaid i chi gyrraedd eich targed er mwyn cael yr arian cyfatebol
• Ei gwneud hi'n hawdd i bobl wella eu hardal leol.
• Hefyd yn partner gyda chyllidwyr eraill
Cysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth new gyngor arnoch