Nid yw nifer o gyllidwyr yn cynnig y swm llawn o arian sydd ei angen arnoch, ac yn hytrach yn gofyn i chi gyfrannu tuag at gost lawn eich gweithgaredd.
Mae pob ariannwr yn wahanol yn yr hyn maen nhw'n gofyn amdano. Er enghraifft, bydd Trusthouse Charitable Foundation yn ariannu hanner neu 50% o'r costau cyflog.
Ariannu cyfatebol arian parod: Bydd rhai cyllidwyr ond yn derbyn arian (parod) fel arian cyfatebol – efallai y bydd angen i chi ddangos eich bod wedi sicrhau hyn drwy eich menter, buddsoddiad cymdeithasol, neu grant arall.
Edrychwch/gwrandewch: What is Match Funding and How it Can Double Your Money | Good Finance
Nid arian parod yw cyfraniadau o nwyddau, ond gallant gynnwys gwerth;
• amser pobl - amser gwirfoddolwyr, amser staff, amser rheoli.
• costau rheoli y gofod y bydd y gweithgaredd yn digwydd ynddo.
• offer neu ddeunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd e.e. cyfrifiaduron, offer cegin.
• rhoddion o ddeunyddiau adeiladu tuag at brosiect adeiladu.
Gall cyfrifo cyllid fod yn heriol - gallai hyn fod o gymorth:
Amser a gwasanaethau pobl: Cyfrifwch gost yr awr amser gwirfoddolwr rheolaidd yn seiliedig ar y math o waith e.e. os yw'r gwirfoddolwr yn helpu gyda gwaith swyddfa, edrychwch ar beth mae pobl yn cael eu talu am hyn e.e. £10 yr awr, ynghyd ag arian ar gyfer yswiriant gwladol, pensiwn (15%) ychwanegol.
Costau rheoli: Cyfrifwch y gost chwarterol (bob 3 mis) o redeg y gofod y bydd eich gweithgaredd yn digwydd ynddo. Bydd angen eich biliau, neu edrychwch ar eich cyfrifon. Os ydych yn cadw llif arian, bydd hyn yn ddefnyddiol hefyd.
Nwyddau: Os ydych chi'n derbyn rhodd/ion o nifer sylweddol o nwyddau neu ddeunyddiau y byddwch chi'n eu defnyddio yn eich prosiect, darganfyddwch eu cost.
Cysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth new gyngor arnoch