Mae gan Sam amryw o brofiad o reoli a datblygu prosiectau yn sector busnesau cymdeithasol Cymru, wedi iddi weithio gyda sefydliadau megis Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru, Syrcas NoFit State, UnLtd, ac Anturiaethau TYF (corff ‘B Corp’ cyntaf Cymru). Mae hi'n angerddol am greu atebion arloesol i heriau cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ddatrysiadau mentrau cynaliadwy i faterion cymunedol.
Fel rheolwraig prosiect, mae Sam yn fedrus mewn cynllunio, rheoli digwyddiadau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a darparu mentrau llwyddiannus. Mae'n cyfuno meddwl strategol gyda dull ymarferol o arwain prosiectau o'r dechrau i'r diwedd.
Mae Sam yn wirfoddolwraig ymroddedig sydd wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol gyda’i gwaith. Mae hi hefyd yn datblygu ei gwybodaeth am niwrowahaniaeth er mwyn creu arferion cynhwysol a helpu unigolion niwrowahanol i gyrraedd eu llawn botensial.