Gyda chefndir yn y diwydiant cyfrifiadurol - gan gynnwys 15 mlynedd mewn swyddi uwch reolwyr / cyfarwyddwr ar draws y DU - mae Geoff wedi treulio'r 12 mlynedd diwethaf yn Ymgynghoriaeth Busnesau Bach, gan gyflwyno cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i'r busnesau bach a chanolig a'r farchnad Trydydd Sector. Wedi iddo ddatblygu profiad sylweddol yn y sector hwn, cyflwynodd nifer o brosiectau sylweddol o amgylch Glannau Mersi.
Gan gynnwys:
1. Galluogwr Mentrau Cymdeithasol gyda Menter Menter Gymdeithasol Glannau Mersi (MSEI, a ariennir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop) yn cyflwyno cyllid cychwynnol a chynaliadwyedd a rhaglenni ar gyfer entrepreneuriaid cymdeithasol a mentrau cymdeithasol cynaliadwy
2. Ymgynghorydd dechrau busnes gydag Elusen Ieuenctid Weston Spirit: cynorthwyo mentrau cyn cychwyn gyda chymorth cynnar a chynllunio + darparwr rhaglen Ehangu Gorwelion Cynhwysiant Cymdeithasol ar ran Glannau Mersi.
3. Yn fwy diweddar; cyflwyno gweithdai menter ar ran Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol, Lerpwl, ac i brosiectau a ariannwyd gan y Rhwydwaith Menter Gymdeithasol.
Mae'r ystod yma o waith prosiect yn arddangos ei awydd i ddysgu, ac arddull ymarferol sy’n amlygu ei barodrwydd i gymryd rhan ar lawr gwlad hefyd. Ar ôl gweithio ar ddau brosiect trawswladol UE, gwahoddwyd wedyn i ymweld â Dwyrain Twrci fel ymgynghorydd annibynnol, i ddarparu hyfforddiant mewn Entrepreneuriaeth a Chynllunio Busnes i ferched Cwrdaidd. Mae hyn yn adlewyrchiad o'i sgiliau cryf wrth ymwneud gyda phobl eraill, a'r gallu i gynllunio a chyflwyno rhaglenni ar gyfer y cymunedau fwyaf anos eu cyrraedd.
Mae prosiectau llwyddiannus eraill Geoff yn cynnwys cefnogi rhaglen gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol i greu Cwmni Cymdeithasol annibynnol er mwyn rheoli a hwyluso gwasanaethau gofal dydd, a chyflwyno llu o weithdai menter gymdeithasol o gwmpas y rhanbarth. Prosiect cyfredol arall yw rhaglen sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer y di-waith tymor hir, pwnc pwysig i Geoff am dros dair blynedd yng Ngholeg Wirral lleol. Mae ei brofiad rhyngwladol yn Tsieina, Ewrop ac UDA yn arddangos mewnwelediad masnachol, cymdeithasol ac economaidd cryf i gymunedau amrywiol. Trwy'r cefndir hwn, ynghyd ag ymddangosiadau ar 'Working Lunch' BBC2 a'r Dragons Den ei hun yn darparu neges lachar ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd.
Nawr ôl ym mro ei febyd yng Ngogledd Cymru, mae Geoff yn angerddol am barhau i ddefnyddio ei wybodaeth a phrofiad o fewn y cymunedau lleol er mwyn cefnogi'r rhai sydd wedi cael eu heithrio'n gymdeithasol i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith ystyrlon.