The Queer Emporium Foundation CIC
Sefydlwyd y Queer Emporium fel pop-yp yn yr Arcêd Frenhinol, Caerdydd ar gyfer Pride Cymru ym mis Mehefin 2021. Y syniad oedd cyfuno stondinau marchnad LHDTCRh+ unigol i un lleoliad. Roedd yn llwyddiant ysgubol, a chafodd sylw eang o’r gymuned a'r cyfryngau, felly fe benderfynon nhw gadw'r gofod yn hirdymor. Mae'r holl elw'n cefnogi prosiectau cymunedol LHDTCRh+.
Yn ogystal â'r siop, maen nhw'n cynnal digwyddiadau rheolaidd ar gyfer y gymuned LHDTCRh+ fel 'Diodydd gyda'r Doliau'; Taith LHDTCRh+ Caerdydd; Clwb Gwin Dydd Sul a llawer mwy.
www.queeremporium.co.uk