Stiwdio 37 CIC
Mae CBC Stiwdio 37 yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cynhwysol i unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth a rhwystrau eraill i'r gweithle yn Rhondda Cynon Taf.
Maent wedi sefydlu amrywiaeth o fusnesau menter bychain o fewn y cwmni er mwyn darparu cyfleoedd gwaith, ac yn gobeithio y gall y rhain ddarparu sbardun i weithleoedd eraill trwy eu cysylltiadau cymunedol.
Eu cenhadaeth yw grymuso a chefnogi'r unigolion talentog hyn i gyrraedd eu potensial llawn a sicrhau mwy o annibyniaeth, hyder ac ymdeimlad o berthyn yn y gweithlu.
www.stiwdio37.org