Aelodau

Rubicon Dance

 

 

Sefydliad dawns cymunedol yw Rubicon Dance sydd wedi bod yn cyflwyno dawns i bobl o bob oedran a gallu ers 1975. Maent yn darparu cyfleoedd dawns i bobl a chymunedau yng Nghasnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg ac wedi adeiladu enw da a gydnabyddir yn genedlaethol am eu gallu i gyrraedd y rhai sy'n aml yn cael eu heithrio o'r celfyddydau.

Mae Rubicon yn bodoli i ddatgloi hunanfynegiant, fel bod pobl yn teimlo’r cymhelliant i ddarganfod eu potensial, a chysylltu â'r byd. Maen nhw'n credu y dylai pawb gael y cyfle i ddarganfod eu potensial a meithrin eu doniau unigol. Dyma pam eu bod wedi dewis cenhadaeth i herio safbwyntiau traddodiadol o'r hyn y mae'n ei olygu i ddawnsio; p'un ai lle rydyn ni'n dawnsio, gyda phwy rydyn ni'n dawnsio, neu sut beth yw mynegiant artistig.

www.rubicondance.co.uk

Cardiff

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl