Sefydlwyd CBC Gwasanaethau Cymorth Awtistiaeth Pwrpasol Pontydd ym mis Ionawr 2023 gan ddau gydweithiwr Gaynor Preece a Luke Dean sy'n meddu ar gymysgedd o arbenigedd gwaith proffesiynol a phrofiad byw o gyflyrau niwrolegol.
Maent yn darparu gwasanaethau cymorth emosiynol, cymdeithasol ac ymarferol pwrpasol i bobl sy'n byw gydag awtistiaeth a'u teuluoedd er mwyn helpu lleihau'r bwlch rhwng y rhai sy'n nodi eu bod yn niwroamrywiol a niwro-nodweddiadol. Mae gan Luke - sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth (niwroamrywiol) - brofiad uniongyrchol o gael ei drin ‘fel gwrthrych’, enghraifft glasurol o "beth i beidio â'i wneud."
Maent yn dylunio'r holl wasanaethau sy'n canolbwyntio ar anghenion a dymuniadau'r rhai y maent yn eu cefnogi, gan roi llais a rheolaeth i bob unigolyn ddylunio’r gwasanaeth gorau fel prif flaenoriaeth, gan alluogi bywyd gorau i fyw i bob cleient unigol. Eu gweledigaeth yw darparu gwasanaeth unigryw a fydd yn chwalu'r rhwystrau i gefnogi unigolion awtistig i fyw bywydau llawn ac annibynnol mewn cymdeithas gynhwysol a chyfartal lle mae'r holl gyfraniadau yn gyfartal.
www.pontyddsupportservices.com