Aelodau

NoFit State Circus

 

 

 

Syrcas gyfoes sy'n cyfuno cerddoriaeth fyw, dawns, dylunio llwyfan, testun a ffilm gyda sgiliau syrcas traddodiadol. Mae’r syrcas yma wedi'i wreiddio yn y gymuned deithiol sy'n cyrraedd, gosod pabell, denu cynulleidfa, ac yna'n gadael gydag ond atgofion a gwastadle o laswellt i ddangos eu bod nhw erioed wedi bod yno.

NoFit State yw prif gwmni syrcas cyfoes ar raddfa fawr y Deyrnas Gyfunol, sy'n cynhyrchu cynyrchiadau teithiol proffesiynol ac amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol, hyfforddiant ac addysg ar gyfer pobl o bob oed. Dros y deng mlynedd diwethaf mae cynyrchiadau teithiol NoFit State wedi ymweld â 19 o wahanol wledydd, wedi perfformio i gynulleidfaoedd o dros 460,000, yn ogystal â derbyn clod beirniadol ac ennill nifer o wobrau celfyddydol rhyngwladol o fri.

 

www.nofitstate.org

 

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl