My Gig Guide CIC - Minty's Gig Guide
Mae gan Minty's Gig Guide CBC weledigaeth i amlygu tirwedd ddiwylliannol Cymru, ei wneud yn gwbl hygyrch, yn weladwy ac yn gynhwysol i bob unigolyn sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Gwlad y Gân.
Gwneud cerddoriaeth fyw yn hygyrch, yn weladwy ac yn gynhwysol i bawb drwy:
-
gynhyrchu gwybodaeth ddwyieithog a chynhwysfawr am ddigwyddiadau sy'n hawdd ei deall o safbwynt y gymuned gerddorol, sy'n arddangos cydraddoldeb ar draws cynfas bywiog a lliwgar.
-
eirioli, cynrychioli a helpu i ddiogelu gwead diwylliannol lleoliadau a mannau cerddoriaeth yng Nghymru a'i phrifddinas, tra hefyd yn parhau i esblygu er mwyn adlewyrchu'r zeitgeist
-
roi llwyfan i bobl a chynrychioli'r amrywiaeth sydd yn y gymuned; rhoi sylw i achosion a straeon; rhannu gwerthoedd ac eiliadau y mae angen eu gweld a'u clywed.
-
gweithredu fel llwyfan sy'n eiddo i'r gymuned – dan arweiniad y gymuned, wedi'i fwydo gan y gymuned sy'n ceisio ymgysylltu gyda chyfranogwyr lleol a rhanbarthol ynghyd ag ymwelwyr.
-
gweithio'n agored ochr yn ochr â sefydliadau eraill ac awdurdodau lleol i bontio bylchau cymdeithasol a diwylliannol mewn ardaloedd sydd o dan anfantais economaidd ac sydd wedi'u hymyleiddio drwy gefnogi a rhannu cyfleoedd a gwybodaeth
Dilynwch nhw ar Facebook neu Twitter