Lighter Brighter Minds Ltd
Nod Lighter Brighter Minds yw gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant, pobl ifanc yn eu harddegau a'u teuluoedd. Mae gweledigaeth y fenter yn syml ond pwerus: creu gwasanaeth iechyd meddwl a lles sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc. Mae hefyd am greu gwasanaeth sydd wedi'i wreiddio yn y gymuned, ac sy'n canolbwyntio ar helpu teuluoedd i ffynnu gyda'i gilydd.
Mae’n gwybod bod yr aros am gymorth yn gallu teimlo'n ddiddiwedd - dros ddwy flynedd i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn y rhan fwyaf o achosion. Dyna pam fod Lighter Brighter Minds yn cynnig rhywbeth gwahanol: gofod rhad ac am ddim, croesawgar lle mae pobl ifanc a'u rhoddwyr gofal yn gallu archwilio'r hyn sy'n gweithio orau iddyn nhw wrth aros am ymyrraeth glinigol. Mae’n credu bod pawb yn haeddu'r cyfle i gymryd perchnogaeth o'u hiechyd meddwl a'u lles, ac mae yno i wneud hynny'n bosibl.
https://www.facebook.com/lighterbrighterminds
Cardiff