Field Days Organic
Mae Field Days Organic yn fenter gymdeithasol arddwriaethol i bobl ag anableddau dysgu sydd wedi'u lleoli ar fferm yr ymddiriedolaeth Amelia Trust ym Mro Morgannwg. Mae'r fenter yn darparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, gan helpu pobl i ddatblygu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a chyfranogi yn y gymuned leol.
Mae'r fenter wedi'i chofrestru'n organig gyda Chymdeithas y Pridd ac mae'n darparu amrywiaeth o gyfleusterau i sicrhau cynllun o weithgareddau drwy'r flwyddyn ar gyfer y bobl rydym yn eu cefnogi; mae'r rhain yn cynnwys: tri thwnnel polythen mawr a dau dŷ gwydr i'w defnyddio yn ystod misoedd y gaeaf.
Yn ystod y tymor tyfu, mae cynnyrch ffres ar gael i'w werthu yn Siop y Fferm, gan gynnwys llysiau a phlanhigion llysieuol. Mae cynhyrchion crefft ar gael yn ystod tymor y Nadolig.
https://innovate-trust.org.uk/field-days