Cynefin Pamoja
Grŵp cymunedol bywiog ar gyfer pobl Affricanaidd a Charibïaidd yng Nghasnewydd yw Cynefin Pamoja, gair sy'n golygu "Gyda'n Gilydd" yn Swahili.
Y nod yw creu perthnasoedd cadarnhaol yng nghymuned Casnewydd ymhlith gwahanol grwpiau ethnig, darparu canolbwynt ar gyfer cyfnewid diwylliannol a chreu lle i ddatblygu’r ieuenctid, gan eirioli dros gynaliadwyedd amgylcheddol. Maent hefyd yn canolbwyntio ar gyfleoedd cyflogadwyedd ac addysg, gan rymuso unigolion â sgiliau a chyfleoedd i ffynnu yn eu bywydau personol a phroffesiynol.
Nod Cynefin Pamoja yw hyrwyddo tegwch ymhlith trigolion Cymru o bob hil, a meithrin integreiddiad trwy ddigwyddiadau diwylliannol sy'n cynyddu cymhwysedd diwylliannol. Mae'r digwyddiadau hyn yn llwyfan ar gyfer hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliannau amrywiol o fewn y gymuned.
www.cynefinpamoja.org
Newport