Cardiff Cycle Workshop Ltd
Sefydlwyd Gweithdy Beicio Caerdydd i hyrwyddo manteision seiclo drwy addysg a rhannu sgiliau, ac erbyn hyn ganddynt weithdy arobryn sy'n cynnig beiciau fforddiadwy ac atgyweiriadau i'r gymuned.
Eu prif nod yw sicrhau bod seiclo'n hygyrch i bawb yn y gymuned. P'un a oes angen cludiant rhad ar fyfyrwyr i ddarlithoedd ac yn ôl, neu os ydych am gadw i symud wedi ymddeol, gallent eich helpu i ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch.
Mae eu cynllun ailgylchu yn caniatáu iddynt werthu beiciau dibynadwy o safon am ffracsiwn o bris set newydd sbon o olwynion, ac mae eu staff a'u gwirfoddolwyr cyfeillgar yn sicrhau bod dysgu edrych ar ôl beic yn brofiad hwyliog a chroesawgar.
www.cardiffcycleworkshop.org.uk
02920 616 783