Antur Waunfawr
Mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol blaenllaw a sefydlwyd yn 1984 sy'n cynnig cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned eu hunain. Ceir amryw o gyfleoedd o siop grefftau a chaffi i ailgylchu dodrefn a dillad (gweler y wefan am fanylion llawn).
Mae’r Antur yn teimlo’n gryf iawn am ddatblygiad personol i bawb.Mae datblygiad personol yn broses gydol oes. Mae’n ffordd i bobl asesu eu sgiliau a’u rhinweddau, i ystyried eu nodau mewn bywyd ac i osod nodau er mwyn gwireddu a gwneud y mwyaf o’u potensial.
Dyna pam maent yn cynnig bob math o gyfleoedd datblygu i’r unigolion sy’n derbyn ein gwasanaeth, megis Cymorth Cyntaf, Hylendid Bwyd, teithio annibynnol ar Gludiant Cyhoeddus, Codi a Chario a llawer mwy.
Darperir cyfleoedd sy'n cyflawni ystod eang o anghenion:
• Unigolion medrus tu hwnt sydd ag anableddau dysgu
• Unigolion ag anghenion cymedrol a sgiliau penodol
• Gwasanaeth therapiwtig newydd ar gyfer unigolion ag anghenion lluosog
• Cyfleoedd cymdeithasol, hamdden a gwyliau
Cyfleoedd gwaith
• Mae amrywiaeth o gyfleoedd gwaith, gan gynnwys cyflogaeth mewn gofal, ailgylchu, rheoli a gweinyddu.
• Profiad gwaith i ddisgyblion uwchradd ysgol, colegau lleol, myfyrwyr prifysgol ac ysgolion arbennig.
• Cyfleodd gwirfoddoli, myned ui i’r farchnad lafur a dychwelyd i’r gwaith i oedolion.
Ffôn: 01286 650721
www.anturwaunfawr.org
Caernarfon, Gwynedd