Agoriad Cyf
Sefydlwyd Agoriad Cyf yn 1992 gyda’r bwriad o ddatblygu cyfleoedd gwaith i bobl anabl, tan-anfantais a’r di-waith tymor hir. Ers hynny, mae llawer iawn o’u cleientiaid wedi cael budd o’u profiadau gydag Agoriad, gan ddatblygu’n gyfranwyr ffyddlon ac effeithlon i’w cyflogwyr.
Mae Agoriad wedi esblygu i fod yn ddarparwr arbenigol o wasanaethau recriwtio, cyflogaeth a hyfforddiant. Mae'r tîm yn dod o hyd i’r cyfleoedd gorau ac yn paru'r rhain gyda’r hyfforddiant priodol wrth iddynt weithio gyda busnesau er mwyn sicrhau trosglwyddiad di-dor i'r gweithle i'w cleientiaid.
Mae Agoriad yn darparu ei wasanaethau ledled Cymru. Cefnogir y Swyddfa Gorfforaethol ym Mangor gan swyddfeydd rhanbarthol ym Mhwllheli, Dolgellau a Chaergybi.
Mae agoriad yn rheoli pedwar Cwmni Cymdeithasol; Dŵr Ceris Cyf, Tŷ Te a Chaffi Llys Llewelyn, Caffi Coed-Y-Brenin, ac yn fwyaf diweddar, Caffi’r Parc. Mae pob un ohonynt wedi eu rhestri ar wahân yn y cyfeiriadur hwn
www.agoriad.org.uk
Bangor, Gwynedd