Clychlythyr - 7/1/2021

Thursday, 07 January 2021
Clychlythyr - 7/1/2021

Llongyfarchiadau i Jennifer Sims BEM am gael ei chydnabod yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
Mae Jennifer Ann Sims, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol FRAME Sir Benfro wedi derbyn Medal Yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwaith diflino .
Sefydlodd Ms Sims yr elusen a menter gymdeithasol ailgylchu arobryn ym 1994, gan helpu newid darpariaeth ailgylchu a chyflogaeth anabledd y sir.
Wrth ymateb i bandemig COVID-19, ceisiodd Jennifer, sydd yn 75 mlwydd oed, am gyllid grant er mwyn lansio Cynllun Bagiau Bwyd Cymunedol FRAME Sir Benfro.
Darganfyddwch fwy am Jennifer a FRAME Sir Benfro fan hyn

Congratulations to Jennifer Sims BEM who has been recognised in the New Year’s Honours list.
Jennifer Ann Sims, founder and CEO of Pembrokeshire Frame, has been recognised for her tireless work with a British Empire Medal (BEM).
Ms Sims established the award-winning recycling social enterprise charity in 1994, helping to change the face of recycling and disability employment provision in the county.
Responding to the COVID-19 pandemic, the 75-year-old sought grant funding to launch Pembrokeshire FRAME’s Bags of Care Community Fridge Scheme.
Find out more about Jennifer and Pembrokeshire FRAME here
 
Sefydliad Screwfix
Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i elusennau a sefydliadau dielw ar gyfer prosiectau a fydd yn trwsio, atgyweirio, cynnal a gwella eiddo a chyfleusterau cymunedol y rhai sydd mewn angen oherwydd caledi ariannol, salwch, anabledd, trallod neu anfantais arall ledled y Deyrnas Gyfunol.
The Screwfix Foundation
Grants of up to £5,000 are available to charities and not for profit organisations for projects that will fix, repair, maintain and improve the properties and community facilities of those in need by reason of financial hardship, sickness, disability, distress or another disadvantage throughout the UK.
 
Grant Rhwystrau Busnes Cymru
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Covid-19 wedi rhoi rhaglen o gymorth cyflogaeth a sgiliau ar waith i helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith.     
  
Mae rhan o’r rhaglen hon yn cynnwys cefnogaeth ychwanegol i unigolion sy’n ystyried bod yn hunangyflogedig. Yn ogystal â’r gwasanaeth cychwyn busnes presennol, mae grant ar gael i gefnogi unigolion di-waith sy’n wynebu mwy o rwystrau economaidd wrth ddechrau busnes. Bydd y grant dewisol hwn yn helpu hyd at 600 o unigolion i ddod yn hunangyflogedig neu i ddechrau busnes rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis 19 Mawrth 2021.
 
Bydd y grant ar agor i bob unigolyn di-waith, ond rhoddir blaenoriaeth i’r rheini y mae Covid-19 wedi effeithio fwyaf arnynt:
  • Merched
  • Pobl anabl
  • Pobl o gefndiroedd BAME
  • Pobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant (NEETS) rhwng 18 a 24 oed neu ymadawyr Coleg neu Brifysgol yn 2019 neu 2020 (gweler y nodiadau cyfarwyddyd llawn)
Mae’r holl wybodaeth ar gael yma.
Business Wales Barriers Grant
The Welsh Government’s Covid-19 commitment, put in place a programme of employment and skills support to help people back to work. 

Part of this programme includes additional support for individuals considering self-employment. In addition to the existing start-up service, a grant to support unemployed individuals that face greater economic barriers to starting a business is being made available. This discretionary grant will help up to 600 individuals become self-employed or start a business, between December 2020 and 19 March 2021.
 
The grant will be open to all unemployed individuals, however priority in allocating funding will be given to those most affected by the Covid-19 outbreak:
  • Women
  • Disabled people
  • People from BAME backgrounds
  • Young people not in education or training (NEETS) aged 18-24 or a College and University leaver in 2019 or 2020
 Full guidance is available here.  
 
Cymorth newydd – Cronfa gwydnwch trydydd sector Cymru – Cam 2
Newidiadau i gynnig cyllid newydd er mwyn darparu cymorth goroesi ac adfer. Cliciwch yma am y wybodaeth yn llawn.
New Support - Third sector resilience fund for Wales – Phase 2 
Changes to offer new funding to provide survival and recovery support. Click here for full information
 
Y Gronfa Radio Cymunedol
Oherwydd effaith barhaus Covid-19, mae'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon bellach wedi darparu £200,000 ychwanegol ar gyfer trydedd rownd o ariannu yn 2020-21 er mwyn cefnogi gorsafoedd radio cymunedol sy'n cymryd camau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn eu cymunedau. Dyddiad cau 14 Ionawr
The Community Radio Fund 
Due to the ongoing impact of Covid-19, an additional £200,000 has now been made available by DCMS for a third funding round in 2020-21 to support community radio stations which are taking steps to tackle loneliness and isolation within their communities. Deadline 14 January

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved