Aelodau

Suresprung Furnishings

Mae gweithdy sydd wedi ei reoli gan Gyngor Abertawe yn cynhyrchu amrywiaeth eang o wahanol feintiau o fatresi a gwelyau gan gynnwys y gwelyau 'Orthorelaxor' diweddaraf sy'n defnyddio'r dechnoleg sbwng ac addasiadau trydanol diweddaraf.  Ar hyn o bryd mae'r gweithdy yn cyflogi tua 90 o bobl gydag amrywiaeth o anableddau yn eu ffatri a lleoliadau.

Mae eu hystafell arddangos gyfoes yn Nhreforys yn fyd gwahanol i'r gweithdai gwreiddiol a sefydlwyd yn 1865 i leddfu'r amodau gwael a wynebwyd gan blant dall Abertawe, lle'r oedd rhaid iddynt gardota er mwyn goroesi. Ym 1961, newidiodd perchnogaeth yr elusen wreiddiol i Gyfeillion Deillion a'r Anabl Abertawe, a dechreuodd y Gweithdy i'r Deillion gynhyrchu gwelyau a dodrefn.

Ym 1974 prynwyd Gweithdy Abertawe i'r Deillion gan yr awdurdod lleol ac erbyn hyn mae'n masnachu o dan enw 'Suresprung Furnishings'.

 

01792 534400


Suresprung Furnishings, 78 Clase Road . SA6 8DZ  

 

Morriston, Swansea

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl