Aelodau

Caffi'r Parc

Agorwyd ystafelloedd te Caffi'r Parc ym mis Mai 2013 fan Mharc Gwledig Caergybi. Trawsnewidwyd hen dŷ’r Warden yn gaffi modern ac ystafelloedd cyfarfod ar gyfer ymwelwyr a phobl leol, er mwyn gwella eu profiad a’u mwynhad wrth ymweld â Pharc Gwledig Morglawdd Caergybi. Galwch heibio am fwyd blasus wedi’i baratoi gan ddefnyddio cynnyrch lleol, gan gynnwys byrbrydau a diodydd, yn ein caffi cyfeillgar a modern.

Ceir amrywiaeth eang o fyrbrydau, ciniawau a chacennau, a chinio i’r henoed ar gael bob dydd Mercher. Bwyd ar gyfer plant, i fynd efo chi ac amryw o goffi a the ar gael. Ystafell gyfarfod a beiciau ar gael i’w rhentu.

Mae'n cael ei reoli gan Fentrau Cymdeithasol Môn sydd yn fusnes sy'n masnachu am reswm cymdeithasol a / neu amgylcheddol. Mae ganddo ymdeimlad clir o'i 'genhadaeth gymdeithasol' gan wybod y gwahaniaeth y mae'n ei cheisio ei wneud, pwy mae'n ceisio eu helpu, a sut y mae'n bwriadu gwneud hynny. Mae'r rhan fwyaf neu’r holl incwm yn dod o werthu nwyddau ac / neu ei gwasanaethau. Ganddynt ddealltwriaeth leol o wir am ailfuddsoddi elw i hybu 'genhadaeth gymdeithasol' lleol.

Mae Menter Gymdeithasol Môn yn Gwmni sy'n eiddo llwyr yr elusen leol Agoriad Cyf a sefydlwyd yn 1992, sy'n ymroddedig i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer pobl anabl a difreintiedig

Ffôn: 01407 840 847

https://www.agoriad.org.uk/caffir-parc.html

Holyhead Country Park, Anglesey

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

polisi cwcis | polisi preifatrwydd | map o'r safle

Hawlfraint 2014. Cedwir pob hawl